Toyota Prius

Mae'r Toyota Prius (lluosog: Prii) yn gar trydan heibrid maint hatchback a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan gwmni Toyota. Mae model 2016 (y Prius Eco) yn cael ei ystyried gan Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd, UDA fel y cerbyd petroliwm mwyaf effeithiol a gaiff ei werthu. Erbyn diwedd 2016 bydd yr ail genhedlaeth wedi eu lansio - y Prius Prime'. Pan ddaeth allan yn gyntaf yn 1997 roedd ei effeithiolrwydd yn gyfystyr i wneud 42 myg ac erbyn 2016 roedd hyn wedi mwy na dyblu i 95 mpg-e. Erbyn 2016 roedd yn medru gwneud 0-60 mewn 10.6 eiliad a gallai deithio ar raddfa o 94 myg (cyfystyr), ac roedd ganddo bhp o 121 a chyflymder uchaf o112 milltir yr awr. Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Toyota Prius 7 marc allan o 10. Fe'i beirniadwyd am ddiffyg mwynhad o'i yrru, ond canmolwyd fod y raddfa milltir y galwyn yn eitha uchel. Roedd y fersiwn 'Active' yn gwerthu am £23,295 yng ngwledydd Prydain a'r fersiwn Excel yn gwerthu am £27,450. Ym 1997 y gwerthwyd ef yn gyntaf, a hynny yn Japan, a'r Prius oedd y cerbyd heibrid cyntaf i gael ei fasgynhyrchu ac yn 2000 ehangwyd y gwerthiant i'r byd mawr crwn. Ym Mai 2008, cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig pan werthwyd miliwn (1,000,000) o'r ceir, dwy filiwn erbyn Medi 2010, a thair milwin erbyn Mehefin 2013. Erbyn diwedd 2012 roedd yn cael ei werthu mewn 80 o wledydd: Japan ac UDA yn bennaf. Ledled y byd, erbyn Mai 2008 roedd miliwn o'r ceir 'Toyota Prius c' wedi'u gwerthu ar gyfer y farchnad ddomestig (hy nid busnes), 2 filiwn ym Medi 2010 ac roedd 3 miliwn wedi'u gwerthu erbyn Mehefin 2013.


Developed by StudentB